Comisiwn y Cynulliad |
Lleoliad: |
Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel |
|
|
|||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 27 Ionawr 2020 |
|
||||
Amser: |
12.35 |
|
||||
|
||||||
|
||||||
Cofnodion: |
||||||
|
|
|
||||
Aelodau’r Comisiwn: |
|
Elin Jones AC (Cadeirydd) Suzy Davies AC Siân Gwenllian AC David J Rowlands AC Joyce Watson AC |
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Arwyn Jones, Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Dave Tosh, Cyfarwyddwr Adnoddau Anna Daniel, Pennaeth Trawsnewid Strategol Kathryn Potter, Pennaeth y Gwasanaeth Ymchwil Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid Sulafa Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd
|
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Eraill yn bresennol: |
|
|
||||
|
|
|||||
1 Cyflwyniad
1.a Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
1.b Datgan buddiannau
Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant. Nododd David Rowlands ei fod yn aelod o'r Pwyllgor Diwygio Etholiadol.
1.c Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd.
2 Strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu
Trafododd y Comisiynwyr gynnig ar gyfer strategaeth i wella’r ffordd y mae'r Cynulliad yn cyfathrebu ac yn ymgysylltu â phobl Cymru, gan ddod â llawer mwy o bwyslais ar y cyfryngau cymdeithasol fel ffordd o siarad â'r cyhoedd a’u cynnwys yn ein gwaith.
Fe wnaethant drafod y pedwar gyrrwr a nodwyd yn y cynigion:
a. Rhoi'r Dinesydd wrth wraidd popeth y mae'r Cynulliad yn ei wneud.
b. Rhoi cyfathrebu digidol wrth wraidd gweithrediadau'r Cynulliad fel ffordd o hwyluso a democrateiddio'r broses ymgysylltu.
c. Gwneud cyfathrebiadau yn symlach ac yn gyson - negeseuon brand syml, gafaelgar wedi'u targedu at grwpiau demograffig penodol.
d. Gwneud newidiadau i strwythur y Gyfarwyddiaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu i gefnogi gweithrediad a diwylliant 'Digidol yn Gyntaf'; a gwella cymhwysedd digidol, setiau sgiliau a dulliau cyflwyno yn barhaus.
Tynnodd y Comisiynwyr sylw at rai elfennau yr hoffent gael sicrwydd yn eu cylch, fel allgau digidol, strategaeth cyfryngau cymdeithasol ac arwyddocâd golygu yn llwyddiant dull newydd. Roeddent yn cefnogi'r strategaeth i roi mwy o bwyslais ar y cyfryngau cymdeithasol i gyfathrebu ac ymgysylltu â dinasyddion, ac fe wnaethant gadarnhau bod y strategaeth yn adlewyrchu eu blaenoriaethau ymgysylltu.
Cytunodd y Comisiynwyr hefyd i adolygu effeithiolrwydd cychwynnol y newid hwn mewn cyfeiriad strategol cyn diwedd y Cynulliad hwn.
3 Cais y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad
Trafododd y Comisiynwyr gais gan y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad i gael gafael ar gyllid o gyllideb Comisiwn y Cynulliad er mwyn comisiynu gweithgarwch ymgysylltu â'r cyhoedd i lywio ei waith ar faint a chapasiti’r Cynulliad a sut mae Aelodau'n cael eu hethol.
Trafododd y Comisiynwyr gydbwysedd y cynigion, un yn nodi hoff ddewis ymhlith grŵp o Aelodau y dylid trafod y materion sy'n ymwneud â diwygio etholiadol yn y Cynulliad nesaf. I gloi, cytunodd y Comisiwn ar y dewis sy’n cael ei ffafrio gan y Pwyllgor.
4 Diwygio’r Cynulliad - materion newid enw
Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i’r Comisiynwyr am y cynnydd hyd yma gyda’r gwaith o fwrw ymlaen â'r newid enw. Fe wnaethant drafod cyfres o benderfyniadau sy'n angenrheidiol i weithredu’r newid enw yn effeithiol erbyn 6 Mai 2020, pan ddaw'r darpariaethau i rym.
· Brandio dangosol i'w ddefnyddio ar logo ac arwyddion ac ati;
· Confensiwn enwi ysgrifenedig, y datganiad diwygiedig o ddiben, sôn am y tro cyntaf/yr ail dro o fewn y testun;
· Termau’r Cynulliad - cyfeiriadau hanesyddol ac yn y dyfodol;
· Y wefan, cyfeiriadau e-bost a’r cyfryngau cymdeithasol;
· Cyfeiriad a chod post;
· Diweddaru’r Cynllun Ieithoedd Swyddogol;
· Nodi’r newid ffurfiol o’r Cynulliad i’r Senedd;
· Sêl newydd y Comisiwn.
5 Diweddariad Brexit
Nododd y Comisiynwyr fod y paratoadau ar gyfer gadael yr UE ar 31 Ionawr a'r cyfnod gweithredu dilynol (hyd at 31 Rhagfyr 2020) yn mynd rhagddynt, mewn perthynas â busnes y Cynulliad a'r gwasanaethau corfforaethol (gan gynnwys contractau gwasanaeth a chyflenwi).
6 Cyllideb atodol
Trafododd y Comisiynwyr gynigion ar gyfer cyllideb atodol, oddeutu £0.35 miliwn, i'w cynnwys yng nghynnig cyllideb Llywodraeth Cymru.
Dyma’r prif ffactorau a lywiodd y gyllideb atodol hon:
• Tanwariant ar Benderfyniad y Bwrdd Taliadau (lleihau'r dyraniad i dalu costau’r Penderfyniad £0.500 miliwn);
• Cyfrifiad cost canol blwyddyn cyllid pensiwn y Safon Cyfrifyddu Rhyngwladol 19 (IAS19) (cynyddu cyllideb gostau’r cyllid pensiwn £0.150 miliwn).
Nododd a chymeradwyodd y Comisiynwyr y Memorandwm Esboniadol, a fydd yn gostwng Cyllideb 2019-20 £0.35 miliwn; a llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid.
7 Cynigion y Pwyllgor Cyllid i ddiwygio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013
Nododd y Comisiynwyr lythyr gan y Pwyllgor Cyllid ynghylch ymgynghoriad y Pwyllgor ar Fil Archwilio Cyhoeddus (Diwygio) (Cymru) drafft.
Roedd y Comisiwn wedi cyflwyno barn i'r Pwyllgor yn flaenorol. Cytunodd y Comisiynwyr ar ymateb i'r Pwyllgor, yn amodol ar fân ddiwygiadau, gan dynnu sylw'r Pwyllgor at y darpariaethau yn Neddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 ynghylch talu treuliau i Gadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru.
8 Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar drefniadau asesu ac adrodd 2018-19 - Ymateb y Comisiwn
Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i’r Comisiynwyr am waith craffu arferol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Gyfrifon 2018-19. Roedd yr adroddiad yn cynnwys chwe argymhelliad.
Cytunodd y Comisiynwyr ar eu hymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
9 Papurau i’w nodi:
9.a Diwygio’r Cynulliad - Diweddariad addysg a chodi ymwybyddiaeth Pleidleisiau @16
Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i’r Comisiynwyr am y cynlluniau i greu adnoddau addysgol ac adnoddau codi ymwybyddiaeth y gall addysgwyr, gweithwyr ieuenctid, ac eraill sy’n gweithio â phobl ifanc eu defnyddio. Aeth y Comisiynwyr ati i wirio bod yr adnoddau sy’n cael eu datblygu yn addas ar gyfer y cwricwlwm newydd. Nododd y Comisiynwyr hefyd y diweddariad a gafwyd yn dilyn cytundeb y Comisiwn ynghylch pennu dull cyffredinol a chynulleidfaoedd allweddol ym mis Tachwedd.
9.b Llythyr gan y Bwrdd Taliadau
Nododd y Comisiynwyr lythyr gan y Bwrdd Taliadau a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt yn dilyn cyfarfod y Bwrdd ym mis Tachwedd. Gofynnodd y llythyr am wybodaeth bellach a manylion ynghylch presenoldeb swyddogion mewn un o gyfarfodydd y Bwrdd yn y dyfodol; roedd hyn yn ymwneud â chostau swyddfa a ddarperir gan Gomisiwn y Cynulliad, ac Yswiriant Atebolrwydd Arferion Cyflogaeth.
9.c Newid y Bwrdd Pensiwn i strategaeth fuddsoddi
Nododd y Comisiynwyr y wybodaeth a gafwyd gan y Bwrdd Pensiwn am newid i strategaeth fuddsoddi Cynllun Pensiwn Aelodau’r Cynulliad, sef gostwng buddsoddiadau’r Cynllun yn y sector olew a nwy.
9.d Cofnodion cyfarfod ACARAC
Dyma’r diweddariad arferol, a ddarparwyd yn dilyn cyfarfod ACARAC ar 21 Hydref.
9.e Diweddariad gan y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD)
Nodwyd y diweddariad arferol.
10 Unrhyw Fater Arall
· Mynd â busnes y Cynulliad i leoliad y tu allan i Gaerdydd
Mewn trafodaethau â grwpiau ac arweinwyr plaid, roedd yr adborth, yn gyffredinol, wedi bod yn gefnogol i wythnos gywasgedig o fusnes y Cynulliad, i'w gynnal yng Ngogledd-ddwyrain Cymru.
Cytunodd y Comisiwn, drwy fwyafrif, y dylai gwaith i gyflawni'r fenter fynd yn ei flaen yn awr, a chytunodd i gyllideb ddangosol o hyd at £250k.
· Llythyr gan dri Aelod
Cytunodd y Comisiynwyr i gadw’r polisi cofebion yn ei ffurf bresennol.
· Digwyddiadau ar yr ystâd
Trafododd y Comisiynwyr faterion yn ymwneud â digwyddiadau sy'n cynnwys dadl wleidyddol, a'r ffiniau o ran yr hyn sy'n ddefnydd priodol o'r ystâd, a gofynnwyd am bapur ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol.
Yn y cyfnod ers y cyfarfod blaenorol, roedd y Comisiynwyr wedi cytuno i gais gan y BBC i gynnal dadl etholiad ar yr ystâd. Hefyd, cynhaliwyd cyfarfod briffio gyda'r Comisiynwyr a'r Llywydd ar 11 Tachwedd mewn perthynas â’r trefniadau ar gyfer cael Comisiynydd Safonau dros dro.